|
Dafydd Parri - Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr. Sefydlydd Cardinal a Chyfarwyddwr nifer o raglenni dogfen gafaelgar.
Yn ei waith mae Dafydd wedi bod mewn sawl sefyllfa ddwys ac emosiynol, gan lwyddo i ddal munudau gwefreiddiol ar ffilm a thâp mewn ysbytai, gwersylloedd milwrol a chanolfan awyr agored.
Ef hefyd sy'n gyfrifol am Slaymaker - cyfres ddiwylliant poblogaidd S4C.
Mae llawer o'i gynhyrchiadau wedi bod yn flaengar, fel "Y Tri Dimensiwn" - cwis wedi ei seilio ar "Noughts and Crosses" 3D a'r cwis ffantasi ar gyfer plant, Manawydan.
Mike Waudby - Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd. 12 mlynnedd fel ysgrifenwr a chyfarwyddwr creadigol rhai o asiantaethau hysbysebu mwyaf Llundain (DDB, FCB, McCann Erickson, Publicis), a'r "meddwl" y tu ôl i ymgyrchoedd hysbysebion llawer o gwmniau (Ford, British Airways, Dulux, Norwich Union, Thomas Cook, BUPA).
Sefydlydd 2 gwmni annibynnol llwyddiannus, Elm Road Productions ac "A" Productions a fu'n gwneud gwaith ym Mhrydain, Ewrop ac mor bell a Hong Kong a Tokyo.
Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd hysbysebion ar gyfer brandiau fel Smarties, McDonalds, After Eight, Bristol & West, HP Sauce, Ginsters, Madamme Tussaud's, Alton Towers, Settlers, Toyota, Disney).
Mae Mike hefyd wedi dyfeisio a chyfarwyddo hysbysebion a rhaglenni corfforaethol ar gyfer cleiantau llai, ble nad yw taflu arian at broblem o anghenrhaid yn ei datrus.
Ennillodd nifer o wobrwyon, (Promax; Aur ac Arian, D & AD; Arian, Midsummer Awards; Aur ac Efydd, British TV Advertising; Arian, Financial Services Marketing; Arian, EPICA; Aur).
Catrin Roberts - Cynhyrchydd/Rheolydd Cynhyrchu. Yn brofiadol iawn yn y maes, dechreuodd Catrin ei gyrfa yn y diwydiant teledu a fideo fel gweinyddydd mewn adnodd ôl-gynhyrchu. Aeth ymlaen i fod yn Rheolydd Cynhyrchu gyda Criw Byw yng Nghaerdydd, cynhyrchwyr Fideo 9 ennillodd wobr BAFTA, yn ogystal â nifer o raglenni ieuenctid eraill, a dogfennau. Mae ei chredits llaw-rydd yn cynnwys "Syth", "Difa" a "4D". Mae Catrin wedi gweithredu fel Cynhyrchydd/Rheolydd Cynhyrchu Cardinal ers 1996, ac yn gyfarwyddwr y cwmni ers 2000.
|
|