|
Mae Cardinal wedi cynhyrchu amrywiaeth o raglenni ar gyfer S4C. Yn cael ein hystyried fel cwmni sy'n torri tir newydd, mae ein rhaglenni wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r gwylwyr. Gyda pwyslais cyson ar fod yn flaengar a chadw safon, rydyn yn anelu at gynhyrchu deunydd sy'n llawn gwybodaeth ac yn difyru'r gwyliwr.
Comisiwn cyntaf Cardinal yn 1993 oedd MANAWYDAN; cwis ffantasi wedi ei seilio ar un o geinciau'r Mabinogi. Ers hynny, mae'r cwmni wedi creu amrywiaeth o raglenni a chyfresi. Mae'r rhain yn cynnwys I'R BYW - cyfres grefyddol galed a Y TRI DIMENSIWN - cwis yn cyfuno gwybodaeth gyffredinol a strwythyr wedi ei seilio ar gêm "noughts and crosses" 3D.
Mae rhai o'n cynhyrchiadau eraill yn amrywio o gyfresi "pry ar y wal" mewn ysbytai fel GLAN CLWYD a YSBYTY GWYNEDD, amrywiaeth SLAYMAKER o fyd diwylliant poblogaidd, a GWROL RYFELWYR yn cymryd golwg ar fywydau'r milwyr yn y Ffiwsilwyr Cymreig.
Ar y funud rydym ar ganol y bumed gyfres o SLAYMAKER.
|
|